Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
16 Hydref 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5852
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1, 2, a 4-8. Tynnwyd cwestiwn 3 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiynau 2, 3, 7 ac 8 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.10
Gofynnwyd y 4 cwestiwn.
Dechreuodd yr eitem am 15.21
I’w ateb gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): Yn dilyn yr ansicrwydd am brosesydd llaeth Tomlinsons Dairy, a’r ffaith fod yna 70 o ffermydd llaeth a channoedd o swyddi yn ddibynol ar yr hufenfa, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo’r cwmni a’r gweithlu?
I’w ateb gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
Alun Davies (Blaenau Gwent): Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud yn dilyn carcharu arweinwyr gwleidyddol etholedig Catalonia?
Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn dilyn y cyhoeddiad ynghylch cau Hi-Lex a cholli 120 o swyddi ym Mharc Ynni Baglan?
Dechreuodd yr eitem am 16.07
Gwnaeth Suzy Davies ddatganiad am - Diwrnod Adfywio Calon.
Gwnaeth Ann Jones ddatganiad am - Dangos y cerdyn coch i hiliaeth.
Dechreuodd yr eitem am 16.10
NDM7155 Huw Irranca-Davies (Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar ddefnyddio plastigau untro.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) lleihau'n sylweddol y defnydd o blastigau untro yn seiliedig ar yr arferion a'r ymchwil rhyngwladol gorau, a fyddai'n sefydlu Cymru fel arweinydd byd o ran lleihau gwastraff plastig;
b) cyflwyno trethi ac ardollau priodol er mwyn lleihau'n sylweddol y gwaith o gynhyrchu plastigau untro yng Nghymru a'r defnydd ohonynt;
c) cyflwyno cynllun gweithredu trawslywodraethol gan gynnwys cyfres gynhwysfawr o fesurau i leihau'n sylweddol y defnydd o blastigau untro;
d) pennu targedau a cherrig milltir ar gyfer lleihau plastigau untro penodol.
Cefnogwyr
Andrew R.T. Davies (Canol De Cymru)
Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.49
NDM7161 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar Gynllun y Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.41
NDM7162 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod treth gyngor yn cael ei thalu ar ail gartrefi.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Nid oedd cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.32
NDM7159 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Ffrind gorau ar y stryd ac oddi arni: herio'r polisi 'dim cŵn' mewn lloches a llety i'r digartref.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.49
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 22 Hydref 2019